Cynorthwyydd Dysgu Dros Dro (Lefel 4) - YGG Llwyncelyn

Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn

Location:
Tonypandy
Posted:
19 Jun 2026
Salary:
0.000000 - 0.000000
Listed on:
uk.whatjobs.com

Job description

Cynorthwyydd Dysgu Dros Dro (Lefel 4) - YGG Llwyncelyn at Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn in Tonypandy United Kingdom. DescriptionSupporting documentsEmployerLocationYSGOL GYNRADD GYMRAEG LLWYNCELYNFfordd y Grug, Llwyncelyn, Porth, Rhondda, CF39 9TLNifer y Disgyblion ar y Gofrestr: 356CYNORTHWYYDD DYSGU DROS DRO (LEFEL 4)Nifer yr oriau fesul wythnos: 32.5 Tymor yr Ysgol yn unigCyflog: Gradd 7 (£31,022 x 77.15%)Math o Gontract: Dros Dro (1 Flwyddyn)Dyddiad Dechrau: Medi 2026Mae Corff Llywodraethu Ysgol Gynradd Gymraeg Llwyncelyn yn ceisio penodi Cynorthwyydd Dysgu ymroddedig (Lefel 4) a fydd yn gweithio ar sail un-i-un o fewn yr ysgol.Mae hwn yn gyfle cyffrous ar gyfer datblygiad proffesiynol mewn amgylchedd gwaith hynod gadarnhaol.Mae'r llywodraethwyr wedi ymrwymo i benodi cynorthwyydd addysgu lefel uwch y bydd ei rôl yn cynnwys:• Cynllunio, paratoi a chyflwyno gweithgareddau dysgu o ansawdd uchel i ddisgyblion.• Darparu strategaethau rheoli ymddygiad dosbarth hynod effeithiol.• Monitro disgyblion ac asesu, cofnodi ac adrodd ar eu cyflawniadau, cynnydd a datblygiad.• Bod yn drefnus iawn, yn hawdd mynd ato, yn hyblyg ac sgiliau cyfathrebu rhagorol.• Meddu ar lefelau uchel o sgiliau Llythrennedd a Rhifedd.• Meddu ar ddealltwriaeth gadarn o egwyddorion a phedagoleg dysgu sylfaen, yn ogystal Chamau Cynnydd 1–3.• Bod ag ymrwymiad i helpu pob plentyn i gyrraedd ei botensial cynnydd llawn a symud disgyblion ymlaen yn eu dysgu.• Bod ag ymrwymiad i ddysgu proffesiynol a datblygu ei ymarfer pedagogaidd ei hun.• Gweithio'n agos gyda rheolwyr llinell, asiantaethau allanol, rhieni a'r gymuned ehangach, gan ddarparu adroddiadau cynnydd disgyblion ar lafar ac yn ysgrifenedig yn ôl yr angen.Bydd y llywodraethwyr yn darparu cefnogaeth effeithiol i'r ymgeisydd llwyddiannus, a fydd yn dangos ymrwymiad cryf i weithio'n agos gyda nhw i ddarparu'r addysg orau bosibl i blant.Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau yw hanner nos (12am) ar 26 Mehefin 2026.MAE AMDDIFFYN PLANT AC OEDOLION AGORED I NIWED YN GYFRIFOLDEB CRAIDD I'R YSGOL A'R CYNGOR. YN OGYSTAL Â'R CYFRIFOLDEB YMA MEWN PERTHYNAS Â DIOGELU, BYDD Y GWASANAETH DATGELU A GWAHARDD YN YMCHWILIO'N FANWL I GEFNDIR YR YMGEISYDD LLWYDDIANNUS HEFYD. Mae'r Cyngor a'r Ysgol yn cydnabod gwerth amrywiaeth yn ei weithlu. Rydyn ni wedi ymrwymo i sicrhau nad yw unrhyw ymgeisydd yn destun gwahaniaethu yn ystod y broses denu a dethol ar sail ei oedran, rhyw, hil, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol, hunaniaeth rhywedd, gan gynnwys y rheiny a chanddyn nhw hunaniaeth anneuaidd, crefydd neu gred neu feichiogrwydd neu famolaeth. Mae gyda ni nifer o rwydweithiau staff gan gynnwys Rhwydwaith y Cynghreiriaid, Rhwydwaith Anabledd a Chynhalwyr, a 'Perthyn', ein rhwydwaith LHDTC+.Fydd ceisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Gymraeg ddim yn cael eu trin yn llai ffafriol na cheisiadau sy'n cael eu cyflwyno yn Saesneg.Oherwydd y nifer sylweddol o Ffurflenni Cais sy'n cael eu cyflwyno ar hyn o bryd, does dim modd cydnabod ceisiadau unigol. Felly, os na fyddwch chi wedi clywed oddi wrthon ni cyn pen pedair wythnos ar ôl y dyddiad cau, cymerwch fod eich cais wedi bod yn aflwyddiannus y tro yma. Diolch am eich diddordeb ac am gyflwyno cais am swydd gyda'r Cyngor. Safeguarding Statement Ysgol G. G. Llwyncelyn is committed to safeguarding and promoting the welfare of children, young people and vulnerable adults and expects all staff and volunteers to share this commitment.We particularly welcome applications from under represented groups including ethnicity, gender, transgender, age, disability, sexual orientation or religion. Compensation: 0.000000 - 0.000000.

Apply on employer site ← All Private Sector