Cynorthwydd Dysgu (BESD) / BESD Learning Support

Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern

Location:
Cardiff
Posted:
19 Jun 2026
Salary:
0.000000 - 0.000000
Listed on:
uk.whatjobs.com

Job description

Cynorthwydd Dysgu (BESD) / BESD Learning Support at Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern in Cardiff United Kingdom. DisgrifiadCyflogwrLleoliadMae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn chwilio am Gynorthwyydd Dysgu profiadol a rhagweithiol i gefnogi disgyblion ag Anghenion Dysgu Ychwanegol, yn enwedig ym maes BESD (ymddygiadol, emosiynol a chymdeithasol). Bydd y rôl yn canolbwyntio ar ddarparu cymorth arbenigol i unigolion a grwpiau o ddisgyblion, gan weithio’n agos gyda staff addysgu i oresgyn rhwystrau i ddysgu a sicrhau bod pob disgybl yn cael mynediad llawn at addysg o safon.Bydd y person llwyddiannus yn chwarae rhan allweddol wrth ddatblygu a gweithredu cynlluniau unigol, monitro cynnydd disgyblion, a darparu cymorth emosiynol a bugeiliol. Disgwylir hefyd i’r ymgeisydd arwain ar elfennau o gefnogaeth ALN o fewn yr ysgol, cydweithio rhieni a gweithwyr proffesiynol eraill, a chyfrannu at ddatblygu systemau, polisïau ac ymarfer effeithiol o ran ymddygiad, presenoldeb ac integreiddio disgyblion. Rydym yn chwilio am unigolyn gyda chymhwyster Lefel 3 perthnasol neu uwch, ynghyd phrofiad o weithio mewn amgylchedd addysgol neu gefnogol. Dylai’r ymgeisydd feddu ar sgiliau cyfathrebu a rhyngbersonol cryf, y gallu i weithio’n annibynnol ac arwain eraill, a dealltwriaeth gadarn o anghenion dysgu a datblygiadol disgyblion. Mae nodweddion megis amynedd, hyblygrwydd a brwdfrydedd yn hanfodol, ynghyd ag ymrwymiad clir i ddiogelu a chyfle cyfartal. Datganiad Diogelu Mae Ysgol Gyfun Gymraeg Bro Edern yn ymrwymedig i ddiogelu a hyrwyddo lles plant, pobl ifanc ac oedolion agored i newid, ac mae’n disgwyl i’r holl staff a gwirfoddolwyr ddeall a rhannu’r ymrwymiad hwn. Mae ymrwymiad cyffredin gennym i ddatblygu diwylliant o barch, lle na chaiff gwahaniaethu ei oddef. Rydym yn croesawu pob cais, gan gynnwys ceisiadau gan bobl o grwpiau sydd wedi’u tangynrychioli ar sail ethnigrwydd, rhywedd, trawsrywedd, oedran, anabledd, cyfeiriadedd rhywiol neu grefydd. Compensation: 0.000000 - 0.000000.

Apply on employer site ← All Private Sector